Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2004 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Mae'r Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, a gyflwynwyd gan lywodraeth y Blaid Lafur, yn rhoi yr un hawliau a chyfrifoldebau i bartneriaethau sifil ag sydd gan briodasau sifil yn y DU. Mae gan bartneriaid sifil yr un hawliau eiddo a chyplau priod heterorywiol, yr un eithriadau a chyplau priod ar dreth etifeddiaeth, nawdd cymdeithasol a hawliau pensiwn, yn ogystal â'r hawl i gael cyfrifoldeb am blant eu partner.[1] Mae'r ddeddf hefyd yn cynnwys hawliau tenantiaid, cydnabyddiaeth yswiriant bywyd llawn, hawliau perthynas agosaf mewn ysbytai a hawliau eraill.[2] Mae yna broses ffurfiol i ddileu partneriaethau sy'n debyg i ysgariad.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search